Neidio i'r cynnwys
Hafan » Beth rydyn ni'n ei wneud

Beth rydyn ni'n ei wneud

Rydym yn dysgu am gyd-gynhyrchu

  • Rydym yn curadu'r Gronfa Wybodaeth : cronfa o adnoddau, gwybodaeth, astudiaethau achos, ymchwil, recordiadau sain, pecynnau cymorth a mwy. Yno rydym yn cyfeirio at ystod eang o adnoddau, ac rydym hefyd yn cynnwys rhai o'n hadnoddau ein hunain yr ydym wedi'u datblygu trwy weithio gyda'n cymuned ymarfer. Efallai yr hoffech edrych ar y Catalog hwn o astudiaethau achos cyd-gynhyrchu o Gymru , yr offeryn archwilio cyd-gynhyrchu , y pecyn cymorth gwerthuso Mesur yr Hyn sy'n Bwysig , a'n Rhestr o derminoleg ymgysylltu
  • Mae gennym Sgyrsiau Cyd-gynhyrchu ar-lein bob deufis lle rydym yn rhannu'r hyn a wyddom gydag aelodau, a rhai sesiynau agored ar gyfer cynulleidfa ehangach. Cadwch lygad ar y cylchlythyr misol a hysbysiadau'r aelodau am restr o ddigwyddiadau! 
  • Rydym wedi adeiladu platfform e-ddysgu sy'n cynnwys ein cyrsiau hunangyfeiriedig 'Hanfodion Cydgynhyrchu' a'n cyrsiau 12 wythnos 'Cydgynhyrchu a Chi' , ac rydym yn gyson yn datblygu briffiau newydd, hyfforddiant sgiliau meddal, a phecyn cymorth o ddulliau sy'n hygyrch i bawb eu hastudio ar gyflymder sy'n addas iddynt.
Darlun: ysgol

Rydym yn cysylltu ac yn rhannu ag eraill

Darlun: pobl yn chwarae cerddoriaeth, yn canu ac yn dawnsio gyda'i gilydd
  • Mae ein haelodau’n dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi’r ymdeimlad o gymrodoriaeth a’r gefnogaeth maen nhw’n ei gael o fod yn rhan o’r gymuned ymarfer. Mae’n helpu gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun , a bod yna bobl sy’n rhannu eich gwerthoedd ac sydd hefyd yn credu mewn ffordd well o wneud pethau. 
  • Mae ein digwyddiadau #CoproConversations bob deufis i aelodau wedi'u canoli o amgylch thema berthnasol, gan roi'r cyfle i ddysgu gan eraill yn y maes hwnnw, rhannu profiadau a myfyrio gyda'n gilydd.
  • Platfform cymunedol y Cylch yw'r lle i gysylltu ag aelodau eraill o bob cwr o Gymru, ar-lein.
  • Mae ein digwyddiadau ar-lein yn bennaf, ond pan fo’n bosibl rydym yn hoffi dod â’r aelodau ynghyd yn bersonol – cadwch lygad ar ein cylchlythyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

Rydym yn dylanwadu ar lunwyr penderfyniadau a pholisi

  • Fel cymuned, rydym yn dod â'n llais cyfunol i ddylanwadu ar newid gyda'n llunwyr penderfyniadau a pholisi, ac yn cyfrannu at lunio amgylchedd gwasanaeth cyhoeddus a pholisi galluogol yng Nghymru, fel y gallwn ni i gyd barhau i wneud mwy o gydgynhyrchu a chydgynhyrchu gwell.
  • Mae ein rhwydwaith wedi'i gysylltu â rhwydweithiau newid eraill o'r un anian, fel y Bartneriaeth Cymunedau Adnoddol . Rydym yn ymateb i ymgynghoriadau, ac yn mynychu rhai o gyfarfodydd Partneriaeth y Trydydd Sector a drefnir gan y WCVA: mae ein tîm yn gallu parhau i adrodd ar yr arferion a'r heriau diweddaraf ym myd cyd-gynhyrchu Cymru diolch i'r hyn rydym yn ei glywed gan ein haelodau. 
  • Drwy ein prosiect 5 mlynedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol , rydym yn gweithio gyda 3 chlwstwr o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i droi eu hymgysylltiad yn gyfranogiad ystyrlon, ymgorffori ymddygiadau cydgynhyrchiol, a thrawsnewid diwylliant.
Darlun: arwyddion ffyrdd trafnidiaeth

Darlun: pobl wedi ymgynnull o amgylch bwrdd a fflachart, yn trafod materion ac yn gwneud nodiadau gyda'i gilydd

“Bob wythnos, byddaf yn defnyddio un o’ch adnoddau, boed hynny’n dal i fyny â chyfres digwyddiadau Co-pro Dydd Llun, defnyddio’ch diffiniad i siarad am co-pro gydag eraill, neu edrych ar syniadau ar eich cronfa wybodaeth. Diolch i’r tîm am wneud co-pro mor hygyrch!” – Alex Congreve, Cymorth i Fenywod Caerdydd

Neidio i'r cynnwys