(cwrs 12 wythnos)
I bwy mae o?
I bobl lle bynnag y bônt ar eu taith gyd-gynhyrchu: os ydych chi eisiau treulio peth amser yn myfyrio'n ddwfn, gyda chyfoedion, ar le cyd-gynhyrchu yn eich gwaith.

Beth mae'n ei gynnwys?
Sut i roi dull cyd-gynhyrchu ar waith yn eich cyd-destun eich hun:
- Ymddygiadau a gweithredoedd ar gyfer rhoi gwerthoedd cyd-gynhyrchu ar waith
- Enghreifftiau a rennir gan ymarferwyr eraill o ystod o sectorau
- Myfyrdod strwythuredig ar eich sefyllfa eich hun, sy'n cyfrannu at eich aseiniad

Beth yw'r deunyddiau?
Byddwch yn atgyfnerthu ac yn datblygu eich ymarfer ymhellach, drwy:
Aseiniad: cynllun gweithredu ar gyfer datblygu eich prosiect cyd-gynhyrchu eich hun
Hunan-astudio (penodau podlediad a darllen pellach)
Seminarau grŵp wythnosol (wedi'u recordio i ddal i fyny neu ail-wylio)
Sesiynau 121 wythnosol dewisol gyda'r tiwtoriaid
Pa mor hir mae'n ei gymryd?
Mae'r cwrs yn rhedeg dros 12 wythnos:
- 8 wythnos i gael mynediad at y deunyddiau astudio (2-3 awr yr wythnos) a sesiynau byw (1 awr yr wythnos + 30 munud dewisol 121)
- 4 wythnos i gwblhau eich aseiniad, sy'n crynhoi popeth rydych chi wedi'i ddysgu mewn cynllun gweithredu ymarferol
Dyfernir tystysgrif cwblhau cwrs i chi ar ôl cyflwyno a marcio aseiniad llwyddiannus, sy'n dangos eich dysgu a'ch datblygiad.
Faint mae'n ei gostio?
£350 + TAW
Mae gostyngiadau i aelodau (25%) a phencampwyr tîm (35%) yn berthnasol.
Gostyngiad cyfyngedig i ddinasyddion ac aelodau gofalwyr di-dâl (75%) ar gael)
Anfonwch neges atom yn learning@copronet.wales i gael y cod disgownt.
Pryd mae'n dechrau?
Bydd ein carfan nesaf yn dechrau ddydd Mawrth 15fed Medi
(Seminarau byw yn rhedeg bob dydd Mawrth 10-11am ar Zoom am 8 wythnos yna 4 wythnos i gwblhau'r asesiad)
Nodyn: Mae pob seminar hefyd wedi'i recordio!