Neidio i'r cynnwys

Partneriaeth Cymunedau Adnoddol

Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn aelod o Bartneriaeth Cymunedau Adnoddol, gallwch ddarllen mwy am y bartneriaeth hon isod.


Pwy Ydym Ni

Fforwm cenedlaethol ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector sy'n helpu i ddatblygu a hyrwyddo gweithgareddau a chamau gweithredu lleol sy'n gwella lles mewn cymunedau #PŵerCymunedol ledled Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn cael ei chadeirio ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Chyngor Sir Penfro.

Logo: Partneriaeth Cymunedau Adnoddol

Cefndir

Dechreuodd y Bartneriaeth fel grŵp cyfeirio o bartneriaid allanol yn cynghori Gofal Cymdeithasol Cymru ar ei waith ar ymgorffori gwydnwch cymunedol.
Ehangodd yn ystod y pandemig, gan ymgysylltu â phobl o amrywiaeth o sefydliadau â chylchoedd gwaith mor eang â gofal iechyd a chymdeithasol, cyrff arolygu, y trydydd sector a'r sector academaidd.

Amcanion

  • Defnyddio gwybodaeth ac arfer aelodau i ddylanwadu ar bolisïau a gwneud penderfyniadau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan feithrin gallu a sgiliau o fewn cymunedau i gynyddu a gwella eu dyfeisgarwch a hyrwyddo pŵer Cymunedol.
  • Dod â diddordeb, ymchwil a phrofiad ymarferol ynghyd i gyflymu arfer da mewn gweithredu/gweithgareddau cymunedol sy'n hyrwyddo dyfeisgarwch cymunedol ac wedi'i ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
  • I lywio a hyrwyddo'r sylfaen dystiolaeth ac ymchwil ar gyfer camau gweithredu/gweithgareddau sy'n cefnogi grymuso cymunedau.

Cyflawniadau

  • Cynhelir cyfarfodydd partneriaeth bob chwarter ac maent yn cwmpasu ystod o ddiweddariadau ac arferion cenedlaethol gan gynnwys : Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol “Ffocws ar y Dyfodol” a'r gefnogaeth i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, diweddariad Polisi Cymunedol Llywodraeth Cymru; prosesau democrataidd sy'n hyrwyddo ymgysylltiad dinesig; rôl cymunedau a thechnoleg wrth liniaru unigrwydd yn ystod pandemig COVID-19, presgripsiynu cymdeithasol, gwirfoddoli yng Nghymru ac ymchwil i gamau gweithredu cymunedau cynaliadwy.
  • Digwyddiadau Partneriaeth
  • Mae'r Bartneriaeth hefyd wedi comisiynu, ac ar hyn o bryd yn treialu, Fframwaith ar gyfer Dyfeisgarwch Cymunedol sy'n Seiliedig ar Le, pecyn cymorth sy'n tywys cyrff cyhoeddus ar weithio'n effeithiol gydag actorion sy'n seiliedig ar y gymuned: 
  • Yn gweithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar adolygiad tystiolaeth o rôl perthnasoedd a chydweithio wrth gefnogi gweithredu cymunedol i wella lles. Mae'r partneriaid sy'n ymwneud â'r prosiect hwn yn cynnwys WCVA, Cwmpas, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Prifysgol Abertawe, Swyddfa Comisiynwyr Cenedlaethau'r Dyfodol, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Gofal Cymdeithasol Cymru, Is-adran Cymunedau LlC a CLlLC.

Cyswllt

Os hoffech chi wybod am fod yn rhan o'r Bartneriaeth, cysylltwch â RCP@wlga.gov.uk neu dewch o hyd i ni ar X/Twitter @ResourcefulCym

Neidio i'r cynnwys