Neidio i'r cynnwys

Cyd-werthuso

Deall beth sy'n gweithio – gyda'n gilydd

Mae cyd-werthuso yn dwyn ynghyd y bobl sy'n ymwneud â phrosiect, gwasanaeth neu ddarn o waith i ddeall beth sy'n gwneud gwahaniaeth, beth y gellid ei wella a beth ddylai ddigwydd nesaf.

Yn hytrach na gwerthuso gwasanaethau o'r tu allan, mae cyd-werthuso yn cynnwys pobl yn deall ac yn dysgu o'u profiadau eu hunain.

Mae'n helpu sefydliadau:

  • Dysgu o wahanol safbwyntiau
  • Meithrin dealltwriaeth gyffredin
  • Gwella gwasanaethau a chanlyniadau
  • Datblygu argymhellion ymarferol ar gyfer y dyfodol

Yn bwysicaf oll, mae'n sicrhau bod dysgu a gwelliant yn digwydd gyda phobl, nid iddyn nhw.


Darlun - canolfan gymunedol gyda minibws wedi'i barcio y tu allan

“Roedd gweithio gyda Lab Cyd-gynhyrchu Cymru yn adfywiol ac yn llawn mewnwelediad.… Yn ymarferol, dysgon ni ddulliau monitro a gwerthuso newydd fel yr 'eiliad hudolus' a'r 'newid mwyaf arwyddocaol' – bydd y rhain mor ddefnyddiol i ni nid yn unig ar gyfer y prosiect hwn ond mewn meysydd eraill o'n gwaith i sicrhau ein bod ni'n gallu casglu mewnwelediad ansoddol i sut mae'r rhai sy'n gweithio gyda ni yn teimlo ein dull o ymgysylltu. Trwy arbenigedd [y cysylltwyr], arweinyddiaeth dyner a dull tosturiol, roedden ni'n gallu gweithio gyda phartneriaid newydd, gwrando ar brofiadau newydd a datblygu ymhellach ein dull o ymgysylltu sy'n seiliedig ar drawma yng Nghymru.”

~ Bryony Parry, Hwb ACE Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Neidio i'r cynnwys