Cymorth ymarferol i'ch helpu i wireddu cyd-gynhyrchu
Mae cyd-gynhyrchu yn ffordd wahanol o weithio, a gall gwneud y newid hwnnw fod yn heriol.
Mae ein gwasanaethau ymgynghori yn helpu sefydliadau i symud o fwriadau da i weithredu ystyrlon.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â thimau i ddeall eu heriau, nodi cyfleoedd a datblygu dulliau ymarferol sy'n gwneud synnwyr yn eu cyd-destun.

Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:
Strategaeth a datblygu sefydliadol
Helpu sefydliadau i ymgorffori cyd-gynhyrchu mewn cynlluniau, polisïau a ffyrdd o weithio.
Hwyluso ac ymgysylltu
Dylunio a hwyluso gweithdai, sgyrsiau a gweithgareddau ymgysylltu sy'n dod â phobl at ei gilydd.
Dylunio gwasanaethau a phrosiectau
Cefnogi sefydliadau i wella gwasanaethau, prosiectau a rhaglenni gyda'r bobl sy'n eu defnyddio.
Adolygiadau a gwerthusiad
Helpu sefydliadau i ddeall beth sy'n gweithio, beth y gellid ei wella a sut i adeiladu ar arfer da.
Hyfforddiant ac adeiladu gallu
Datblygu'r hyder, y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud cyd-gynhyrchu yn rhan o arfer bob dydd.
Newid diwylliant
Cefnogi arweinwyr a thimau i greu amgylcheddau lle gall cydweithio a gwneud penderfyniadau ar y cyd ffynnu.
Dydyn ni ddim yn creu dibyniaeth. Rydym yn gweithio gyda chi fel bod gan eich sefydliad yr hyder a'r gallu i barhau â'r gwaith yn annibynnol.

“Drwy weithio gyda chi, sicrhaodd fod gan bob aelod o’r tîm ddealltwriaeth o gyd-gynhyrchu a gweledigaeth ar gyfer sut roedden ni eisiau ei ymgorffori yn ein gwaith a’n diwylliant, yn ogystal â mynediad at brofiad, gwybodaeth ac atebion ymarferol gan arbenigwyr yn y maes. Ni theimlai erioed yn feichus nac fel ein bod ni’n ‘ticio blwch’ ac roedd yn agoriad llygaid ac yn bleserus.”
~ Lucy James, Prif Ymgynghorydd Arbenigol – Ymgysylltu, Cyfoeth Naturiol Cymru