Rydym wedi sefydlu ein llwyfan e-ddysgu ein hunain, a nawr yn cynnig ein cwrs blaenllaw "Cyd-gynhyrchu a Chi". Rydym yn datblygu cyrsiau a modiwlau newydd i’w hychwanegu, felly cadwch lygad ar ein gwefan! (Byddwn yn cyhoeddi unrhyw beth newydd yn y cylchlythyr.)

Cyd-gynhyrchu a Chi (Cwrs 12 wythnos)
Mae’r cwrs “Cyd-gynhyrchu a Chi” yn gwrs i chi, ble bynnag yr ydych ar eich siwrnai gyd-gynhyrchu, os ydych eisiau treulio amser yn myfyrio’n ddwfn, gyda chymheiriaid, ar le cyd-gynhyrchu yn eich gwaith. Bydd yn gymorth i chi feithrin eich arfer, a’i ddatblygu ymhellach, trwy:
Hunan-astudiaeth (podlediadau wedi eu teilwra’n arbennig, argymelliadau ar gyfer darllen pellach, a heriau byr)
Seminarau grŵp wythnosol a’r opsiwn o gael sesiynau un-i-un wythnosol gyda’r tiwtoriaid
Defnyddio’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu i greu cynllun gweithredu i reoli’ch her cyd-gynhyrchu chi’ch hun
Mae’r cwrs yn cynnwys:
Archwilio dewis o weithredoedd a thechnegau sy’n gysylltiedig â phob un o 5 gwerth cyd-gynhyrchu
Amrywiaeth o enghreifftiau o gyd-gynhyrchu ar waith, wedi’u rhannu gan ymarferwyr eraill o ddewis o sectorau
Myfyrio mewn ffordd strwythuredig ar sut i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn eich arfer chi’ch hun, ac mae hyn yn cyfrannu at eich aseiniad
Mae cynnwys y cwrs yn addas ar gyfer arddulliau dysgu gwahanol; caiff ei gyflwyno ar ein llwyfan hygyrch, cyfeillgar, sy’n cydweddu â rhaglenni darllen sgrin.
Mae’r cwrs yn rhedeg dros gyfnod o 12 wythnos: yn ystod yr 8 wythnos gyntaf, cewch fynediad at y deunyddiau astudio (tua 2 i 3 awr yr wythnos) a’r sesiynau byw (1 awr yr wythnos + yr opsiwn o gael 30 munud un-i-un. Mae’r mis sy’n weddill yn amser i gwblhau’r aseiniad, sy’n cymryd y cyfan yr ydych wedi ei ddysgu ac yn ei grynhoi mewn cynllun gweithredu ymarferol. Dyfernir tystysgrif i chi am gwblhau’r cwrs wedi i chi gyflwyno aseiniad sy’n dangos eich dysgu a’ch datblygiad ac wedi iddo gael ei farcio’n llwyddiannus.
Dewch i gwrdd â’r tiwtoriaid
Jenny Mushiring'ani Monjero

Mike Corcoran

Cost y cwrs:
£165+TAW (£198)
Gostyngiadau ar gael i aelodau a hyrwyddwyr Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.
Rydym yn cynnig y cwrs hwn 3 gwaith y flwyddyn; cliciwch ar y botwm i weld manylion llawn y cwrs a dyddiadau’r cohort nesaf.
