Neidio i'r cynnwys

Prosiectau

Rydym ar gael i gefnogi a chyd-fynd â'ch taith gyd-gynhyrchu, boed yn beilot tasg a gorffen â ffocws, neu'n gynllun cynaliadwy i ymgorffori newid diwylliant – ac unrhyw beth rhyngddynt.

Sut rydym yn gweithio

Rydym bob amser yn dechrau drwy ddod i'ch adnabod chi. Mae angen i ni eich deall chi, fel tîm ac fel sefydliad, ynghyd â'ch disgwyliadau, eich dyheadau a'ch canlyniadau disgwyliedig. Rydym yn gofyn cwestiynau sy'n dod ag eglurder i bwrpas y prosiect, ac i'n sgyrsiau dilynol.

O hynny ymlaen, rydym yn gwneud “gyda” chi, nid “i chi”. Rydym yn eich tywys ar y daith ac yn modelu pecyn cymorth o dechnegau a sgiliau sy'n meithrin cyd-gynhyrchu ac ymwneud ystyrlon. Rydym yn tywys ac yn cynghori, ac yn dod â'n profiad o weithio gydag ystod eang o sefydliadau a sectorau. Rydym yn cefnogi eich tîm i feithrin eu sgiliau, yn ogystal â'u hyder gyda'r dull hwn. 

Darlun - mae grŵp o ddinasyddion a gweithwyr proffesiynol yn yr awyr agored, wedi ymgynnull o amgylch cynlluniau maen nhw'n eu trafod

Mae ein prosiectau i gyd yn edrych yn wahanol iawn, ond mae tri pheth bob amser yn berthnasol:

  • Amrywiaeth a chynhwysiant , oherwydd ei bod yn hanfodol bod gan bawb sydd â rhan yn y canlyniadau lais yn y broses. 
  • Monitro a (chyd-)werthuso , fel ein bod yn sicrhau ein bod yn gwybod sut olwg sydd ar dda, a'n bod ar y trywydd iawn.
  • Meithrin perthnasoedd dibynadwy , oherwydd efallai ein bod yn gweithio ar brosiect ond rydym bob amser yn cadw llygad ar y tymor hir. 

Nid ydym yn gwmni ymgynghori cyffredin. Byddwn yn bresennol ac yn ymarferol ochr yn ochr â chi bob cam o'r ffordd, ond byddwn hefyd yn eich cyfarparu i wneud hyn drosoch eich hunain, fel bod y sgiliau a'r profiad a ddatblygwch drwy'r broses yn gynaliadwy, ac yn parhau ar ôl i ni orffen gweithio gyda'n gilydd.

Darlun - stryd dref gyda siopau a thai

Sut olwg allai fod ar brosiect byr

Rydym yn cyd-fynd ac yn tywys eich gweithrediad o gyd-gynhyrchu a chynnwys dinasyddion, wedi'i gymhwyso'n ymarferol i her benodol:

  • Rydym yn nodi eich arfer da presennol ac yn adeiladu arno.
  • Rydym yn egluro beth yw cyd-gynhyrchu da a chynnwys dinasyddion.
  • Rydym yn mentora ac yn arwain eich tîm i gymhwyso'r dull i'ch problem.
  • Rydym yn cynnig dull hyblyg sy'n cyfuno hyfforddiant, hwyluso, mentora a chefnogaeth yn ôl yr angen.

Un tîm, un her: cwestiwn “sut rydyn ni’n…”.


Sut olwg allai fod ar raglen newid diwylliant

Rydym yn eich helpu i fabwysiadu ymddygiadau cydgynhyrchiol a newid y diwylliant yn eich sefydliad:

  • Ymateb i ofynion deddfwriaethol ynghylch cyd-gynhyrchu a chynnwys dinasyddion.
  • Ymgorffori cyd-gynhyrchu drwy feithrin y sgiliau, y gallu a'r profiad yn eich timau.
  • Creu lle ar gyfer arloesi a gweithredu mwy fel sefydliad sy'n dysgu.
  • Adeiladu eich gallu i weithredu mewn cymhlethdod ac ymateb i gyd-destunau sy'n esblygu.
  • Datblygu atebion newydd i heriau presennol drwy fanteisio ar berthnasoedd dibynadwy.

Un sefydliad arweiniol, yn gweithio ar draws sawl tîm, gyda phartneriaid, a chyda dinasyddion/cymunedau.


Cysylltwch â ni

Gadewch i ni gael sgwrs am ble rydych chi, a ble rydych chi eisiau bod. Gallwn ni ddylunio cynnig sy'n cyfuno hyfforddiant, mentora, cynllunio neu sesiynau cynghori, a hwyluso, i gyd-fynd â'ch gofynion: hello@copronet.wales

Darlun - parc a maes chwarae

“Drwy weithio gyda chi, sicrhaodd fod gan bob aelod o’r tîm ddealltwriaeth o gyd-gynhyrchu a gweledigaeth ar gyfer sut roedden ni eisiau ei ymgorffori yn ein gwaith a’n diwylliant, yn ogystal â mynediad at brofiad, gwybodaeth ac atebion ymarferol gan arbenigwyr yn y maes. Ni theimlai erioed yn feichus nac fel ein bod ni’n ‘ticio blwch’ ac roedd yn agoriad llygaid ac yn bleserus.”
~ Lucy James, Prif Ymgynghorydd Arbenigol – Ymgysylltu, Cyfoeth Naturiol Cymru
Neidio i'r cynnwys