Yr hyn a wnawn

Os ydych yn ceisio meddwl sut gallwn eich helpu, gweler isod grynodeb hwylus. 

Rydym yn dysgu am gydgynhyrchu

  • Rydym yn gofalu am y Sylfaen Wybodaeth: sef cronfa o adnoddau, gwybodaeth, astudiaethau achos, ymchwil, recordiadau clywedol, pecynnau cymorth a mwy. Gallwn gynnig arwyddbyst ichi at amrediad eang o adnoddau, ac rydym hefyd yn cynnwys rhai o’n hadnoddau ein hunain a ddatblygwyd trwy weithio gyda’r gymuned ymarfer. Hwyrach y byddech yn hoffi cymryd cip ar y Catalog hwn o astudiaethau achos ym maes cydgynhyrchu o Gymru, y pecyn cymorth archwilio cydgynhyrchu, y pecyn cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, a'n Geirfa o derminoleg ymgysylltu
  • Rydym yn cynnal sesiynau #dysgu ar-lein bob mis lle byddwn yn rhannu gwybodaeth gydag aelodau, a rhai sesiynau agored ar gyfer cynulleidfa ehangach. Cadwch sylw ar y newyddlen misol a'r hysbysiadau'r aelodau ar gyfer rhestrau digwyddiadau! 
  • Rydym wedi creu platform e-ddysgu sy’n cynnwys ein cwrs blaenllaw sy’n para am 4 wythnos 'Cyd-gynhyrchu a Chi’ , ac rydym wrthi’n datblygu’n barhaus sesiynau briffio, hyfforddiant mewn sgiliau meddal a phecyn cymorth o ddulliau sy’n hygyrch i bawb allu astudio ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw.

Byddwn yn cysylltu ag ac yn rhannu gydag eraill

  • Yn ôl ein haelodau, maent yn gwerthfawrogi’r naws o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy’n deillio o fod yn rhan o’r gymuned ymarfer. Mae’n helpu gwybod nad ydych ar eich pen eich hun, a bod pobl eraill sy’n rhannu eich gwerthoedd ac sy’n credu hefyd mewn gwell ffordd o wneud pethau. 
  • Digwyddiadau thematig yw’r #CoproMondays wythnosol ar gyfer aelodau, sy’n ffocysu ar bwnc perthnasol ac sy’n cynnig cyfle i rannu profiadau a myfyrio gyda’n gilydd.
  • Ein platfform cymunedol yn gyfle i gysylltu ag aelodau eraill ledled Cymru ar-lein.
  • Rydym yn parhau i redeg digwyddiadau #coproweek Cymru ar-lein... ond y bwriad yw trefnu digwyddiadau wyneb yn wyneb eto pan fydd amgylchiadau’n golygu y gallwn wneud hynny’n ddiogel, ac yn enwedig ein cynhadledd flynyddol ar gydgynhyrchu yng Nghanolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Rydym yn dylanwadu ar unigolion sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisi

  • Fel cymuned, rydym yn defnyddio ein llais cyfun i ddylanwadu ar newid ymhlith unigolion sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisi, ac yn cyfrannu at siapio gwasanaeth cyhoeddus ac amgylchedd polisi sy’n galluogi yng Nghymru, er mwyn i bob un ohonom wneud mwy o gydgynhyrchu, a chyd-gynhyrchu’n well.
  • Mae gan ein rhwydwaith gysylltiadau gyda rhwydweithiau newid eraill, tebyg eu meddwl, megis ‘Community Resourcefulness Partnership’. Rydym yn ymateb i ymgynghoriadau, ac yn mynychu rhai o gyfarfodydd y Bartneriaeth Trydydd Sector dan ofal CGGC: mae ein tîm yn gallu parhau i adrodd ar yr arferion a’r heriau diweddaraf ym maes cydgynhyrchu yng Nghymru , diolch i’r hyn y mae ein haelodau yn ei rannu gyda ni. 
  • Trwy’r prosiect 5 mlynedd, a gyllidir gan y Gronfa Loteri Genedlaethol, rydym yn gweithio gyda 3 chlwstwr o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i droi eu gwaith ymgysylltu’n ymgyfraniad arwyddocaol, i ymwreiddio ymddygiad cydgynhyrchiol, ac i drawsnewid diwylliant. Gellir darllen mwy am Brosiect Dewi fan hyn. 

"Bob wythnos, rwyf yn defnyddio un o’ch adnoddau, boed yn golygu dal fyny ar gyfres digwyddiadau Co-pro Mondays, defnyddio eich diffiniad i drafod cydgynhyrchu gydag eraill, neu wrth ystyried syniadau ar eich sylfaen wybodaeth. Diolch yn fawr i’r tîm am wneud cydgynhyrchu mor hygyrch!"
- Alex Congreve, Cymorth i Fenywod, Caerdydd

Skip to content