Mae'r mudiad hwn yn ei grud o hyd: cofrestrwyd ein mudiad yn swyddogol ym mis Mai 2019. Aethom ati i adeiladu ar waith cyd-gynhyrchu cynnar ac rydym yn hyderus yn ein gallu a'n ffordd o gyflawni; nawr ein bod ni wedi'n sefydlu ac yn gynaliadwy yn ariannol, mae'n amser i ni atgyfnerthu ein llywodraethiant a'n prosesau. Dymunwn gryfhau ein bwrdd a'i ymestyn, er mwyn ein helpu i dyfu a chymryd ein camau nesaf.
Dyma ein nodau:
- tyfu arfer da ar draws sectorau a ledled Cymru,
- cefnogi'r bobl sy'n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau i greu cyd-destun cadarnhaol ar gyfer y gwaith hwn, ac
- achosi newidiadau positif yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau.
Mae ein bwrdd o gyfarwyddwyr anweithredol yn chwarae rhan hanfodol trwy:
- oruchwylio rhwymedigaethau cyfreithiol y cwmni;
- sicrhau ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau yn unol â'n cyfansoddiad;
- sicrhau ein bod yn drwyadl yn ariannol ac yn gynaliadwy, a rheoli risgiau;
- cynnal ein gwerthoedd a'n safonau uchel;
- sicrhau ein bod yn gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol;
- cadw ffocws ar ein cenhadaeth a'n hamcanion;
- cefnogi ein datblygiad strategol;
- gyrru datblygiad, twf a dysgu, a gwelliant; a
- chefnogi'r cyd-gyfarwyddwyr gweithredol i wneud yr uchod.
Ar gyfer swyddi aelod o'r Bwrdd mae angen ymrwymiad o 3 - 4 diwrnod y flwyddyn (6 - 8 ar gyfer y cadeirydd). Mae’r swydd am gyfnod o dair blynedd, a gellir adnewyddu'r cyfnod ar ôl hyn. Nid oes tâl am y rôl, Mae'n wirfoddol, ac ad-delir treuliau (gan gynnwys costau gofal).
Os ydych yn ystyried ymuno â'n bwrdd cyfarwyddwyr, mae'r ddogfen hon yn esbonio rôl aelodau'r bwrdd, beth / pwy yr ydym yn chwilio amdanynt, a sut i ymgeisio..
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12.00 hanner dydd, ddydd Mercher 5 Ebrill 2023