Yn aml, gofynnir i ni beth mae cyd-gynhyrchu yn ei olygu mewn gwirionedd a pham ei fod yn bwysig. Mae ein hanimeiddiad yn dadansoddi egwyddorion craidd cyd-gynhyrchu mewn llai na dwy funud, gan esbonio sut mae'n wahanol i ymgynghori a pham mae rhannu pŵer yn arwain at wasanaethau gwell. P'un a ydych chi'n newydd i gyd-gynhyrchu neu'n chwilio am esboniad clir i'w rannu gyda chydweithwyr, mae'r fideo hwn yn cynnig cyflwyniad syml i weithio mewn partneriaeth wirioneddol â chymunedau.
Fersiwn Cymraeg ar gael ar YouTube.

Ble nesaf?
Rydym wedi creu canllaw rhyngweithiol i'ch helpu i ddod o hyd i'r union beth sydd ei angen arnoch o'n llyfrgell adnoddau.

Os hoffech chi gael help llaw i roi'r wybodaeth hon ar waith, rydym yn cynnig ystod eang o gefnogaeth drwy ein haelodaeth , a'n tîm hyfforddi ac ymgynghori.