Pan fyddwch chi’n ymaelodi â Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru ac yn tanysgrifio i aelodaeth fel sefydliad, mae gofyn enwebu nifer o hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu o’ch tîm / sefydliad.
Rôl hyrwyddwr cyd-gynhyrchu yw ymgysylltu â siwrnai ddysgu cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion, hedfan y faner dros gyd-gynhyrchu a bod yn eiriolydd drosto, dod i gyswllt â’r gymuned ehangach o ymarferwyr yn Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, cefnogi cydweithwyr a rhannu gwybodaeth ac adnoddau yn eich sefydliad.
Nid rhywun sy’n gwybod popeth sydd i’w wybod am gyd-gynhyrchu yw’r hyrwyddwr (ydy’r fath beth yn bodoli? Dydyn ni ddim yn credu ei fod).Yn hytrach mae’n rhywun sydd wedi sefydlu cysylltiad â rhwydwaith ehangach o ddysgu ac ymarfer, y mae ganddynt fynediad ato er mwyn dysgu mwy! ‘Does dim disgwyl i chi fod â’r atebion i gyd. Trwy fod yn hyrwyddwr a chadw ffocws ar arfer cyd-gynhyrchu eich tîm, byddwch yn magu ychydig mwy o brofiad a gwybodaeth na’ch cydweithwyr, a byddwch yn gallu cynnig cymorth iddynt (tu mewn i’ch sefydliad a thu allan iddo). Yn yr un modd, yma yn Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, ry’n ni wedi bod yn dod â ffocws ar gyd- gynhyrchu ychydig yn hirach na chi, ac felly mae ein harfer a’n ffordd o feddwl ni wedi’u datblygu ychydig yn fwy, ac ry’n ni yma i rannu gyda chi ac i’ch cefnogi ar eich siwrnai, gyda’n gwybodaeth ni. Ry’n ni i gyd yn dysgu sut i wneud hyn yn dda gyda’n gilydd.
Mae bod yn hyrwyddwr yn rhywbeth yr *ydych* chi oherwydd mae gennych ddiddordeb yn hyn, ac ry’ch chi’n credu yng ngwerth y dull gweithredu hwn, sy’n gallu can make a positive impact for our services and our communities. Being a champion isn’t an extra load of things for you to *do*, but it is a way for you to support what you and your team are working on in terms of co- production and citizen involvement. We make support and resources available to you, and you dip in as little or as much as is helpful to you at this stage of the journey. cael effaith gadarnhaol ar ein gwasanaethau a’n cymunedau. Nid yw bod yn hyrwyddwr yn golygu bod gennych lond lle o bethau ychwanegol i’w *gwneud*. Yn hytrach, mae’n ffordd i chi gefnogi eich gwaith chi a’ch tîm o ran cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Ry’n ni’n sicrhau bod cymorth ac adnoddau ar gael i chi, a chewch chi bigo i mewn cyn lleied neu gymaint ag sy’n ddefnyddiol i chi ar y cam hwn ar y siwrnai.
Gallai hyn amrywio gydag amser. Nid oes unrhyw bwysau i wneud hyn o gwbl, ac nid oes unrhyw feini prawf i’w bodloni na bocsys i’w ticio. Ry’n ni yma i’ch helpu ac mae’r gwahoddiad ar agor ar bob adeg.
Yn ymarferol?
Yn ogystal â digwyddiadau arferol y Rhwydwaith, a gynhelir ar gyfer aelodau, ry’n ni’n cynnig hyfforddiant sy’n benodol i hyrwyddwyr ar eich cyfer chi, yr hyrwyddwyr, yn ogystal â gwybodaeth trwy ein rhestr bostio i hyrwyddwyr, cymorth trwy ein grŵp hyrwyddwyr yn Circle, a mynediad at ein tîm cymorth i aelodau a’n hymgynghorwyr er mwyn gwirio eich bod chi’n iawn a’ch cefnogi pan fo’r angen yn codi. (O, a gostyngiadau ar gyrsiau a digwyddiadau sydd â thocynnau hefyd!)