Mae gan eich sefydliad ymrwymiad strategol a gweithredol i gydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Dyma'r fargen!
Manteision aelodaeth i dimau
- Gwiriad blynyddol o’ch nodau, dyheadau ac anghenion datblygu o safbwynt cyd-gynhyrchu
- Hyfforddiant i “Hyrwyddwyr Cyd-gynhyrchu” i’w paratoi gyda’r adnoddau a’r sgiliau i rannu cyd-gynhyrchu a chefnogi dysgu ac arferion cydweithwyr
- Mynediad cynnar a gostyngiadau ar gyfer digwyddiadau lle mae angen tocynnau, hyfforddiant a chyrsiau e-ddysgu
- Mynediad at sesiynau mentora a chyngor gydag ymgynghorwyr ym maes cydgynhyrchu, er mwyn herio a dilysu eich arferion mewn ffordd adeiladol
- Cefnogaeth gyda sesiynau briffio cyd-gynhyrchu ar gyfer timau neu gydweithwyr sy’n uwch arweinyddion
- Bathodyn digidol ac asedau ar gyfer eich gwefan a llofnodion ebost, i ddangos eich ymrwymiad fel sefydliad i gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad

Prisiau aelodaeth
Hyrwyddwyr | Sector y Llywodraeth a’r sector statudol | Sector mawr a’r trydydd sector cenedlaethol | Sector rhanbarthol a’r trydydd sector canolig ei maint | Sector lleol, cymunedol a’r trydydd sector bach |
1 - 5 | £600 + TAW (£720) | £400 + TAW (£480) | £200 + TAW (£240) | £100 + TAW (£120) |
6 - 10 | £1,200 + TAW (£1,440) | £800 + TAW (£960) | £400 + TAW (£480) | £200 + TAW (£240) |
11 - 20 | £2,400 + TAW (£2,880) | £1,600 + TAW (£1,920) | £800 + TAW (£960) | £400 + TAW (£480) |
21 neu fwy | Pwrpasol (£120+TAW fesul hyrwyddwr) | Pwrpasol (£80+TAW fesul hyrwyddwr) | Pwrpasol (£40+TAW fesul hyrwyddwr) | Pwrpasol (£20+TAW fesul hyrwyddwr) |
The team membership fees enable us to maintain and support this vibrant network of people, groups, teams and organisations who are making transformational co-production a reality in Wales. In exchange, as a member organisation you nominate your co-production champions, who can be staff members, volunteers, trustees, service users, and/or people who work in (or closely with) your organisation. The Co-production Network helps them to improve their co-production practice, develop it further across your teams, increase your impact as an organisation, and advance your strategic co-production and involvement aims.
Y print mân:
● Aelodaeth flynyddol yw hon sy’n rhedeg o 1af Ebrill hyd at 31ain Mawrth.
● Mae aelodaeth oes ar gael ar gyfer prosiectau: pro rata o ran hyd eich prosiect tymor penodol mewn misoedd llawn, hyd at uchafswm o 5 mlynedd.
● Ar hyn o bryd, telir aelodaeth trwy anfoneb (yn y dyfodol byddwch yn gallu cofrestru, adnewyddu a thalu trwy’r wefan).
● Os byddwch yn ymaelodi yn ystod y flwyddyn, seilir eich ffi ymaelodi ar nifer y misoedd llawn, pro rata.
Os nad yw’r Ffurflen Google yn agor, cysylltwch â ni ar: [email protected] a gallwn e-bostio copi mewn Word atoch i’w llenwi a’i dychwelyd trwy ebost. Cysylltwch â ni os oes unrhyw gwestiynau neu broblemau eraill!