Cofrestru fel aelod

Helô ‘na! Diolch am eich diddordeb mewn ymaelodi â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Ein nod? Bod yn gymuned ymarfer, cysylltu â phobl debyg eu meddwl sydd hefyd yn credu mewn gwerth cydgynhyrchu. Dysgu, rhannu a thyfu gyda’n gilydd.
Yr unig beth a ofynnir gennych chi: eich bod yn ymrwymo i ddatblygu eich arferion cydgynhyrchu, ym mha bynnag ffordd sy’n addas ichi.
Mae aelodaeth yn agored i bawb. 
Mae aelodaeth unigol yn rhad ac am ddim am byth. (Os ydych yn rhan o sefydliad, rydym hefyd yn cynnig aelodaeth i dimau, fan hyn.)

ON: Trwy gofrestru, rydych yn cadarnhau eich bod yn 16 oed neu hŷn.

Sut i gofrestru?

Mae gofyn darparu’r wybodaeth isod. It looks like a long form with lots of questions. It is (sorry!).
Y pethau hanfodol yw atebion i’r tri chwestiwn cyntaf: cyfeiriad ebost, ac enw. Mae hynny er mwyn inni anfon diweddariadau a manylion digwyddiadau i aelodau atoch.

Fodd bynnag, fel sefydliad, rydym yn ddifrifol iawn ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae casglu gweddill yr wybodaeth yn ein helpu i weithio tuag at gymuned fwy cynhwysol i bawb. (Os na ofynnwn, ni fyddwn yn gwybod pa leisiau sydd ar goll.) Hefyd mae’n ein helpu i wneud ceisiadau am gyllid, ac wrth adrodd i gyllidwyr. Mae ymatebion ar gyfer yr holl gwestiynau ychwanegol yn wirfoddol. Os nad ydych am lenwi rhai ohonynt - neu’r un - o’r cwestiynau ychwanegol, nid oes rhaid ichi wneud hynny i allu ymaelodi.

Cedwir gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol bob amser, ac ni fyddwn byth yn ei rhannu. Byddwn yn edrych ar ddata demograffeg yn unig yn ei grynswth, ac nid fel unigolion. Rydym yn defnyddio MadMimi i ddosbarthu cylchlythyrau ac i reoli eich data. Gweler ein polisi preifatrwydd fan hyn.

Skip to content