Neidio i'r cynnwys
Hafan » Blog » Ymunwch â ni! Rydym yn recriwtio aelodau bwrdd a chadeirydd

Ymunwch â ni! Rydym yn recriwtio aelodau bwrdd a chadeirydd

Cymerwch y cam nesaf wrth arwain y mudiad ar gyfer cyd-gynhyrchu yng Nghymru ac ymunwch â'n bwrdd. 

Rydym yn chwilio am unigolion angerddol ac ymroddedig sydd eisiau llunio gwaith Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn o dwf a datblygiad cydgynhyrchu ledled Cymru.

Rydym yn fenter gymdeithasol fach ond deinamig sy'n hyrwyddo arferion cyd-gynhyrchu yng Nghymru. Fel aelod o'r bwrdd, byddwch yn ein helpu i weithio tuag at ein gweledigaeth o Gymru decach a mwy cynaliadwy lle mae gan bawb lais sy'n cael ei glywed/ei wrando. Rydym am gryfhau ac ymestyn ein bwrdd i'n helpu i aros yn arloesol a thyfu ein mudiad ar draws cymunedau. Rydym yn arbennig o awyddus i unrhyw un sydd â phrofiad o graffu ariannol neu sydd â'r uchelgais o fod yn gadeirydd i ni yn y dyfodol.

Ein hamcanion yw:

  • i feithrin arferion da ar draws sectorau ac ar draws Cymru,
  • dylanwadu ar lunwyr polisi a phenderfyniadau a'u cefnogi i lunio cyd-destun cadarnhaol ar gyfer y gwaith hwn, a
  • i effeithio ar newid diwylliannol cadarnhaol yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau.

Mae ein bwrdd o gyfarwyddwyr anweithredol yn chwarae rhan hanfodol drwy:

  • goruchwylio rhwymedigaethau cyfreithiol y cwmni;
  • sicrhau ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau yn unol â'n cyfansoddiad;
  • sicrhau ein bod yn ariannol gadarn ac yn gynaliadwy, a rheoli risgiau;
  • cynnal ein gwerthoedd a'n safonau uchel;
  • sicrhau ein bod yn gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol;
  • cadw ffocws ar ein cenhadaeth a'n hamcanion; 
  • cefnogi ein datblygiad strategol;
  • ysgogi datblygiad, twf a dysgu, a gwelliant; a
  • cefnogi'r Prif Swyddog Gweithredol wrth gyflawni'r uchod.

Mae swyddi aelodau'r bwrdd yn gofyn am ymrwymiad o 3 – 4 diwrnod y flwyddyn (6 – 8 i'r cadeirydd). Mae'r tymor yn dair blynedd, yn adnewyddadwy. Mae'r rôl yn ddi-dâl ar sail wirfoddol, gyda threuliau'n cael eu had-dalu (gan gynnwys costau gofal).

Os ydych chi'n ystyried ymuno â'n bwrdd cyfarwyddwyr, mae'r ddogfen hon yn egluro rôl aelodau'r bwrdd, beth / pwy rydym yn chwilio amdano, a sut i wneud cais:

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12.00 canol dydd ddydd Gwener 13 Tachwedd 2026

Gadewch ateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae meysydd gofynnol wedi'u marcio â *

Neidio i'r cynnwys