Beth yw cydgynhyrchu?

Yn y bôn, mae cydgynhyrchu’n golygu bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth gyda phobl sydd wedi cael profiadau byw, i ddatblygu atebion i heriau mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.

creenshot of co-production video, click here to play in Youube

Mae’r diffiniad rydym yn ei ddefnyddio fel a ganlyn: 

Dull o weithio a seilir ar asedau yw cydgynhyrchu mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n galluogi pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb, ac i gydweithio trwy gysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar. Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’i angen, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol.

Ffordd o feddwl a dull o weithio yw, a seilir ar y 5 gwerth hyn:

Gwerthfawrogi pobl a magu eu cryfderau

Datblygu rhwydweithiau sy’n gweithredu draws seilo

Canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r bobl dan sylw

Meithrin cysylltiadau a seilir ar ffydd a grym a rennir

Galluogi pobl i ysgogi newid

Mae gennym Sylfaen Wybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am gydgynhyrchu a digonedd o astudiaethau achos. Mae Adran 1 yn delio gyda "beth yw cydgynhyrchu”. Mae’r adnoddau hynny ar gael yma, ac oddi yno gallwch archwilio gweddill y Sylfaen Wybodaeth.

Beth yw’r cysylltiad rhwng hyn ac ymgyfraniad?

Ymgyfraniad yw un o’r 5 ffordd o weithio sy’n greiddiol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n amlygu ‘pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn gwireddu’r nodau llesiant, a sicrhau fod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a wasanaethir gan y corff.’

Yng nghyd-destun polisi Cymru, rydym yn defnyddio’r gair ymgyfraniad (hynny yw, cyfraniad gan ddinasyddion neu gymunedau) ochr yn ochr â’r gair cydgynhyrchu oherwydd o safbwynt ymarferol, maent mor debyg i’w gilydd. 

"Rwyf wedi dysgu ymddiried yn fy hunan mwy, ond hefyd i gael ffydd yng nghapasiti pobl eraill i gael hyd i atebion sy’n bodloni eu hanghenion nhw. Mae wedi rhoi caniatâd imi fod yn ddewrach, ond yn fwy dynol wrth drafod gyda chyllidwyr a chomisiynwyr sydd yn y pen draw wedi arwain at drafodaethau mwy didwyll ac arwyddocaol."
- Sian Davies, Mencap Cymru, Pennaeth Effaith a Dysgu

Skip to content