Rydym yn chwilio am bobl newydd i ymuno â'n tîm o Hyfforddwyr a Mentoriaid Cyd-gynhyrchu llawrydd yn Lab Cyd-gynhyrchu Cymru ar gyfer 2023.
Pam? Rydym yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer llwyth gwaith cynyddol yn 2023 ac yn edrych i recriwtio sawl cysylltydd newydd, gan fod angen tua 5-7 diwrnod ychwanegol o gapasiti'r wythnos ar draws ein tîm.
Dyddiad cau: erbyn 11eg Rhagfyr 2022.
Lleoliad: Cymru, gweithio o gartref.
Mae'r wybodaeth am y rôl, sut i wneud cais, a dolenni i ddogfennau ategol, i gyd yma (Google Doc).
(Os byddwch chi'n dod ar draws hyn yn ddiweddarach, anfonwch neges atom i gofrestru diddordeb yn team@copronet.wales , a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pryd fyddwn ni'n gwneud y rownd nesaf).