Prif Weithredwr
Cyflog £52,000 (pro rata)
Gweithio o gartref
Dyddiad cau: 04/12/2023
Hoffech chi chwarae rhan mewn gwreiddio'r ymarfer o gyd-gynhyrchu mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Rydym yn awyddus i recriwtio Prif Weithredwr ar adeg allweddol i'r sefydliad, lle rydym yn cryfhau ein strwythur, ymestyn ein cyrhaeddiad a'n heffaith, a chanolbwyntio ar gyfeiriad strategol y cwmni.
Pwy ydym ni?
Wedi ein sefydlu yn 2012, rydym yn cefnogi cymuned bobl sy’n credu yng ngwerth cydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chymorth cynghori drwy ein cangen fasnachol, Lab Cyd-gynhyrchu Cymru.
Rydym yn credu, pan fydd aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth, bod gwasanaethau'n cael eu gwella ac ei fod yn bosib i ddeallt anghenion pobl yn well. Golygir hyn fod cymunedau'n cryfhau. Yn y tirwedd presennol, credwn fod cydgynhyrchu yn cynnig dull cymhellol o ddod â newid cadarnhaol a chynaliadwy i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn deg ac yn gynaliadwy, lle mae gan bawb lais sy'n cael ei glywed.
Ein cenhadaeth yw ymgorffori'r arfer o gydgynhyrchu a chyfranogi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Pwy rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd eisoes gyda hanes o ragoriaeth ar lefel uwch mewn sefydliad ac yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o arwain yn y trydydd sector yn ogystal â gweithrediadau cynhyrchu incwm masnachol. Rydym yn chwilio am rywun sydd gyda’r gallu i ysbrydoli ac arwain ein sefydliad ar ei daith gyffrous nesaf.
Sut i wneud cais
I wneud cais, dilynwch y ddolen hon i anfon:
- Eich CV (dim mwy na 3 ochr A4), gan gynnwys manylion dau ganolwr, ac mae'n rhaid i un ohonynt fod yn gyflogwr cyfredol neu fwyaf diweddar. (Ni chysylltir â nhw cyn y cyfweliadau na phenderfyniad ar gynnig apwyntiad.)
- Llythyr ategol (dim mwy na 3 tudalen), sy'n cyfeirio at y swydd ddisgrifiad a’r manyldeb personol.