
“Drwy weithio gyda chi, cawsom ffrind beirniadol profiadol a gwybodus i’n prosiect. Helpodd Mike ni i gyrraedd consensws fel tîm ynghylch cyd-gynhyrchu (beth mae’n ei olygu i ni, beth yw’r rhwystrau posibl i weithio yn y ffordd hon a beth yr ydym am ei newid am y ffyrdd yr ydym yn gweithio gyda’n cymunedau). O ganlyniad uniongyrchol i’r ymwneud hwn â’n prosiect, rydym wedi symud nifer o elfennau o’r ffordd yr ydym yn gweithio ymlaen – yn hytrach na dim ond siarad amdanynt!
Rydym wedi sefydlu perthnasoedd gwaith da gyda Chynghorau Tref a Chymuned yn yr ardal ac rydym yn edrych i adeiladu ar y rhain yn y dyfodol agos a hirdymor. Mae'r prosiect peilot a gefnogwyd gennych wedi derbyn adborth cadarnhaol o bob rhan o'r sefydliad ac mae'r dysgu ohono wedi'i ddwyn ymlaen fel catalydd i ymgymryd â gwaith ychwanegol a thebyg.”
– Lucy James, Prif Ymgynghorydd Arbenigol – Ymgysylltu, Cyfoeth Naturiol Cymru