Mynd i'r cynnwys

Croeso!

Cymuned o bobl ydym, sy’n credu yng ngwerth cydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Byddai’n hyfryd cael eich cwmni.

Illustration of different citizens and professionals interconnected and exchanging information.

Icon: a notepad and pencil

Rydym yn cynnal sesiynau briffio, hyfforddiant a digwyddiadau a seilir ar themâu ar gyfer aelodau.

Icon: 3 people

Rydym yn cysylltu â’n gilydd ac yn dysgu o arferion a rennir.

Icon: a loudhailer

Mae ein llais ar y cyd yn helpu dylanwadu ar bolisi a phenderfyniadau a wneir.

Gellir dysgu mwy am yr hyn a gynigir trwy’r gymuned ymarfer!


Ymunwch â ni:

Mae aelodaeth ar agor i bawb sydd â diddordeb mewn cydgynhyrchu ac ymgyfraniad mewn gwasanaethau cyhoeddus, boed yn ddinesydd neu wirfoddolwr, yn weithiwr proffesiynol gyda gwasanaeth cyhoeddus neu yn y trydydd sector ar unrhyw lefel, yn academydd neu ymchwilydd, yn swyddog ac unigolyn sy’n gyfrifol am lunio polisi gyda llywodraeth leol neu genedlaethol…..ac wrth gwrs unrhyw gyfuniad o’r uchod!

Icon: a person
Mae gennych ddiddordeb personol neu broffesiynol mewn cydgynhyrchu ac ymgyfraniad. Rydych yn awyddus i ymuno â’r gymuned ymarfer, a chysylltu â phobl eraill sydd â gwerthoedd tebyg.
Mae’r aelodaeth ar gyfer unigolyn yn rhad ac am ddim am byth: gall unrhyw un sydd â diddordeb ymaelodi heb unrhyw gyfyngiadau o ran cost neu ganiatâd.
Icon: a team
Mae gan eich sefydliad ymrwymiad strategol a gweithredol i gydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Mae’r ffioedd ymaelodi ar gyfer timau’n ein galluogi i fod yn gynaliadwy, a chynnig cymorth ychwanegol ar gyfer eich hyrwyddwyr cydgynhyrchu. 

Cadw mewn cysylltiad!

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol llawn gwybodaeth am gydgynhyrchu ac uchafbwyntiau.

Icon: a letter in an envelope

Anfonwch neges at helo@copronet.cymru neu ffoniwch ni. Dyma ein manylion cyswllt:

Icon: an envelope being sent
Skip to content